O'r Bae

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editor: Podcast
  • Duración: 20:13:02
  • Mas informaciones

Informações:

Sinopsis

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Episodios

  • Tymor Newydd yn Dechrau

    18/09/2024 Duración: 31min

    Gyda'r tymor seneddol newydd wedi dechrau mae Vaughan a Richard yn trafod yr hyn fydd ar yr agenda ym Mae Caerdydd a San Steffan. Maen nhw hefyd yn dadansoddi penodiadau Eluned Morgan i'w chabinet ar hyn mae'r penodiadau yn golygu i'r grŵp Llafur yn y Bae. Ac a hithau'n ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i rannu ei hatgofion hi o'r cyfnod ac i drafod dyfodol yr SNP.

  • O Faes yr Eisteddfod

    07/08/2024 Duración: 35min

    Wedi'i recordio ar faes yr Eisteddfod, mae Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan. Mae'r ddau yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio. Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa i'r ddau.

  • Eluned Morgan yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru

    24/07/2024 Duración: 29min

    Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones i ddadansoddi Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'r ddau yn trafod yr heriau sydd yn ei hwynebu i uno grwp y blaid yn y Senedd a'i hapêl i etholwyr Cymru.

  • Ymddiswyddiad Vaughan Gething

    17/07/2024 Duración: 24min

    Ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd fel Prif Weinidog Cymru, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy’n trafod y ffactorau wnaeth arwain at ei benderfyniad. Mae’r ddau yn dadansoddi'r hyn mae’n golygu i’r Blaid Lafur a’r heriau fydd yn wynebu grŵp y blaid yn y Senedd gan ystyried pwy sy’n debygol o sefyll os oes ras i’w olynu.

  • 10 Gorffennaf: Dadansoddi canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol

    10/07/2024 Duración: 31min

    Ar ôl i'r blaid Lafur ennill buddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol mae Vaughan a Richard yn dadansoddi’r canlyniadau yng Nghymru gan drafod ymgyrch y pleidau gan edrych ymlaen hefyd at etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae’r ddau hefyd yn rhannu eu hargraffiadau o ddyddiau cynnar llywodraeth Keir Starmer ac yn ystyried dyfodol y Blaid Geidwadol.

  • 02 Gorffennaf: Dyfodol y Ceidwadwyr, a'r etholiad yn yr Alban

    02/07/2024 Duración: 28min

    Yn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o’r pynciau o dan sylw. Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i’r etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.

  • 26 Mehefin: Y sgandal gamblo, a'i effaith ar yr ymgyrch

    26/06/2024 Duración: 32min

    Faint o effaith mae honiadau o gamblo yn ei gael ar ymgyrch yr etholiad? Dyna brif ffocws Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones.Sylw i ymgyrch Plaid Cymru, gyda dadansoddiad gan cyn aelod Cynulliad y Blaid, Nerys Evans. Ac mae sylw penodol hefyd yn cael ei rhoi i etholaethau'r de.

  • 19 Mehefin: Maniffestos Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru

    19/06/2024 Duración: 37min

    Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma. Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei 'chytundeb' gyda'r bobl ym Merthyr Tudful.. Cyfle hefyd i roi sylw penodol i etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.

  • 12 Mehefin: Etholaethau'r Gogledd

    12/06/2024 Duración: 31min

    Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch etholiadol hyd yma, gan ganolbwyntio ar rai o etholaethau'r gogledd.

  • Llond Bol o Bledleisio

    25/03/2021 Duración: 21min

    Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones sy’n cychwyn y ras i etholiad Senedd Cymru yng nghwmni Kate Crockett.

  • Brexit yn Berwi

    18/12/2020 Duración: 24min

    Trafodaeth danbaid wrth i’r UE a llywodraeth y DU geisio taro bargen ar gytundeb masnach.

  • Cytundeb masnach ar y dibyn?

    11/12/2020 Duración: 23min

    Alun Thomas, Elliw Gwawr, Mared Gwyn, Paul Davies ac Hywel Williams sy'n trafod.

  • Y Brechlyn Newydd

    04/12/2020 Duración: 24min

    Alun Thomas yn holi pa mor barod fydd pawb i gael eu brechu o ystyried yr holl newyddion ffug ar wefannau.

  • Nadolig Covid

    27/11/2020 Duración: 20min

    Trafod effaith cyfyngiadau y coronafeirws ar yr ŵyl gyda Gwenllian Grigg, Teleri Glyn Jones, Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Ifan Llywelyn.

  • Drama Downing Street

    20/11/2020 Duración: 21min

    Yr Athro Richard Wyn Jones, Vaughan Roderick a Morley Jones sy’n ymuno â Gwenllian Grigg.

  • Beth nesa i America?

    13/11/2020 Duración: 21min

    Gwenllian Grigg sy’n holi Bethan James, Syr Deian Hopkin a’r Athro Jerry Hunter

  • Y Ras i'r Tŷ Gwyn

    06/11/2020 Duración: 21min

    Gwenllian Grigg sy’n cael cwmni Maxine Hughes, Catrin Jones a Jonathan Edwards

  • Hydref Dan Glo...

    30/10/2020 Duración: 21min

    Dafydd Morgan, Teleri Glyn Jones, Cynog Prys a Carys Huws sy’n trafod y cyfnod clo...

  • Yr Ail Glo

    23/10/2020 Duración: 20min

    Gwenllian Grigg sy'n trafod y cyfnod clo newydd gydag Alun Thomas, Yr Athro Arwyn Thomas Jones o Brifysgol Caerdydd a Dr Eleri Davies Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  • Pysgota am gytundeb Brexit?

    16/10/2020 Duración: 20min

    Gwenllian Grigg, Richard Wyn Jones, Mared Gwyn a Vaughan Roderick sy’n trafod.

página 1 de 3